Mae’r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn gorff ffurfiol a sefydlwyd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE. Mae ganddo rôl bwysig o ran goruchwylio gweithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a phob cytundeb dilynol rhwng y DU a’r UE. Welsh Parliament 
 Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE: Adroddiad cryno’r pumed cyfarfod
 
 Mai 2025

Cynhaliwyd pumed cyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ym Mrwsel ar 17-18 Mawrth. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o faterion pwysig i Gymru a drafodwyd yn y cyfarfod.

Cymerodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a Hannah Blythyn AS, aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ran yn y pumed cyfarfod ac maent wedi cytuno ar yr adroddiad yn rhinwedd y cyfranogiad hwnnw.

Cynnwys

1.         Rolau a chyfrifoldebau.. 3

Rôl y Senedd.. 5

Cyfraniadau’r Aelodau o'r Senedd.. 5

Y Cyfarfod Llawn.. 5

Grŵp trafod: Diogelu data a deallusrwydd artiffisial 7

Grŵp trafod: Cydweithredu o ran yr hinsawdd ac ynni 7

2.        Materion allweddol i Gymru a'r Senedd.. 8

Y sefyllfa sydd ohoni 9

Meysydd cydweithredu penodol 10

3.        Argymhellion.. 11

 


 

1.            Rolau a chyfrifoldebau

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn darparu ar gyfer sefydlu Cynulliad Partneriaeth Seneddol rhwng y DU a’r UE fel rhan o’i strwythurau llywodraethu, y cyfeirir atynt fel y ‘fframwaith sefydliadol’. Bydd y fframwaith hwn yn goruchwylio'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu a phob cytundeb dilynol rhwng y DU a'r UE.

Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn darparu y dylai'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol gynnwys aelodau o Senedd Ewrop a Senedd y DU. Mae gan y Cynulliad rôl bwysig o ran goruchwylio gweithrediad y Cytundeb.

Dyma'r unig gorff a all ddwyn i gyfrif ar y cyd Gyngor Partneriaeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Y Cyngor Partneriaeth yw’r corff sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o’r Comisiwn Ewropeaidd a Gweinidogion Llywodraeth y DU.

O ran y Cynulliad Partneriaeth Seneddol:

§    gall ofyn am wybodaeth am y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a chytundebau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol gan y Cyngor Partneriaeth, a rhaid i’r corff hwnnw ddarparu’r wybodaeth;

§    rhaid iddo gael gwybod am benderfyniadau ac argymhellion y Cyngor Partneriaeth; a

§    gall wneud argymhellion i'r Cyngor Partneriaeth.

Mae'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol hefyd wedi mabwysiadu ei reolau gweithdrefnau ei hun ers ei sefydlu, sy'n nodi sut y bydd yn gweithredu'n ymarferol.

Mae cynrychiolwyr o Senedd y DU a Senedd Ewrop yn cadeirio'r Cynulliad ar y cyd. Y Cyd-gadeiryddion ar hyn o bryd yw Marsha de Cordova AS a Sandro Gozi ASE. Mae rhestr lawn o gynrychiolwyr o Senedd y DU ac o Senedd Ewrop i’w cael ar eu gwefannau.

Mae'r ffeithlun isod yn dangos ble mae'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn sefyll o fewn fframwaith sefydliadol cyffredinol y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

 

Y Cytundeb Masnach a Chydweithredu: Fframwaith Sefydliadol

Rôl y Senedd

Nid yw'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn darparu rôl ffurfiol i ddeddfwrfeydd datganoledig y DU, na rhanbarthau a dinasoedd yr UE yng ngwaith y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, nac i gymdeithas sifil.

O ystyried, fodd bynnag, bod rhannau helaeth o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn dod o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig neu yn cael effaith arnynt, mae'r rheolau gweithdrefnau a fabwysiadwyd yn caniatáu i'r deddfwrfeydd datganoledig gael eu gwahodd i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd fel arsylwyr. Nid oes gan gynrychiolwyr sydd â statws arsylwr hawliau siarad cyffredin yn ystod sesiynau'r Cyfarfod Llawn ac nid oes ganddynt hawliau pleidleisio.

Gwahoddwyd y Senedd i anfon dau Aelod o'r Senedd i'r cyfarfod o’r Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae Fforwm Cadeiryddion y Senedd wedi penderfynu, o ystyried eu cylchoedd gwaith priodol, y dylai'r Senedd gael ei chynrychioli gan y Cadeirydd neu Aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Cadeirydd neu Aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Mae’r trafodion ar gael i’w gwylio ar wefan Senedd Ewrop.

Cyfraniadau’r Aelodau o'r Senedd

Gofynnwyd i’r Aelodau o’r Senedd gyfrannu at un eitem o'u dewis ar agenda'r Cyfarfod Llawn ac i gymryd rhan lawn mewn grwpiau trafod.

Y Cyfarfod Llawn

Cyfrannodd Delyth Jewell AS at yr eitem ar agenda’r Cyfarfod Llawn ar gyfleoedd i bobl ifanc. Dywedodd: 

Yn y Senedd, clywn dro ar ôl tro sut mae cyfleoedd i bobl ifanc yn agor drysau i'r byd.

Ym mis Tachwedd, roedd fy Mhwyllgor, sy'n arwain ar ddiwylliant a chysylltiadau rhyngwladol, yma ym Mrwsel i gyhoeddi ein hadroddiad ar effeithiau Brexit ar y sector diwylliant, a oedd yn tynnu sylw'n benodol am y tro cyntaf at effeithiau cenedliadol ar artistiaid ifanc ac artistiaid sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru.

Mae ein sectorau’n dweud wrthym pa mor gryf maen nhw’n teimlo am golli cynllun Erasmus+ a chynllun Ewrop Greadigol. Maen nhw'n galw ar y DU i ailymuno â'r cynlluniau hyn.

Roedd y Farwnes Bull yn gywir pan soniodd am “gyfle a aeth i’r gwynt i bobl ifanc”. Byddwn i'n ychwanegu fy llais yn llwyr at y sylwadau a wnaeth hi yn gynharach.

Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi clywed straeon torcalonnus tebyg – lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi i beidio â mynd ar drywydd mentrau newydd, ac i beidio â gwneud cysylltiadau sy'n newid bywydau, oherwydd mae’r drysau hynny bellach ar gau iddyn nhw.

Rydym yn cefnogi’n llwyr argymhelliad rhagflaenydd y Cynulliad hwn, a oedd yn cydnabod bod y sefyllfa'n arbennig o heriol i bobl ifanc. Gobeithio y gallwn ni fynd â hynny ymhellach.

Rhaid inni ddangos iddynt y gallwn ddod o hyd i atebion ar gyfer eu dyfodol. Os na allwn, rydym mewn perygl o ddieithrio cenhedlaeth gyfan ymhellach. Y gwirionedd yw, nad yw cymaint o'r hyn sy'n cael ei golli yn cael ei gofnodi mewn graffiau nac ystadegau, sef cyfleoedd heb eu cymryd, cysylltiadau heb eu gwneud, bywydau heb eu newid er gwell.

Mae'n ddyletswydd arnom o ran pobl ifanc heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol, iddynt beidio â dod yn ddioddefwyr o ganlyniad i'n diofalwch ni. Rhaid i ni gynnig gobaith iddynt.

Dywedodd y Farwnes Deborah Bull, a roddodd dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor:

One additional mechanism for cultural exchange that’s often overlooked is Creative Europe, the EU’s flagship programme. The UK and its cultural organisations were highly valued partners and it had a major impact on projects in the UK’s nations and regions.

So, I echo the Welsh Senedd’s excellent Culture Shock report, as well as colleagues in Creative Scotland, who are calling for consideration of the UK’s reassociation to Creative Europe as these youth opportunities discussions move forward.

Hannah Blythyn AS a Delyth Jewell AS yn ystod sesiwn y Cyfarfod Llawn

Grŵp trafod: Diogelu data a deallusrwydd artiffisial

Cymerodd Hannah Blythyn AS ran yn y grŵp trafod ar ddiogelu data a deallusrwydd artiffisial.

Cydnabu'r cynrychiolwyr wahanol ddulliau'r DU a'r UE o reoleiddio deallusrwydd artiffisial, a thrafodwyd y bygythiadau a'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil. Roedd cytundeb y gallai’r sefyllfa fyd-eang bresennol, yn enwedig datblygiadau yn yr Unol Daleithiau a Tsieina, ei gwneud yn ofynnol i’r DU a’r UE gydweithredu, a rhannwyd pryderon y gallai fframweithiau cyfreithiol lluosog gynnig cyfleoedd i dramgwyddwyr.

Tynnodd Hannah sylw at ymchwiliad diweddar Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Ddeallusrwydd Artiffisial, a phwysleisiodd fod llais gweithwyr a deialog gymdeithasol yn ganolog i effaith y cyfleuster ar ddemocratiaeth a'r gweithle.

Galwodd y cynrychiolwyr am fuddsoddiad ar y cyd mewn ymchwil a datblygu, ac am gamau brys.

Grŵp trafod: Cydweithredu o ran yr hinsawdd ac ynni

Cymerodd Delyth Jewell AS ran yn y grŵp trafod ar gydweithredu o ran yr hinsawdd ac ynni.

Roedd cydnabyddiaeth eang bod newid hinsawdd yn niweidio'r economi. Roedd y cynrychiolwyr yn cefnogi bod angen rhagor o ddiplomyddiaeth o ran yr hinsawdd yn ogystal â'r ymrwymiadau presennol ar ddiogelwch ynni, datgarboneiddio a’r cyflenwad ynni, gan gynnwys datgysylltu oddi wrth olew a nwy o Rwsia. Tynnwyd sylw hefyd at ddiwydrwydd dyladwy o ran y gadwyn gyflenwi fel mater pwysig, yn ogystal â'r goblygiadau sy'n deillio o’r ffaith bod yr Unol Daleithiau wedi tynnu’n ôl o Gytundeb Paris.

Pwysleisiodd Delyth y rôl bwysig sydd gan gymunedau gwahanol wrth ymateb i ddigwyddiadau tywydd garw, fel llifogydd a thomenni glo yn llithro, a'r angen i’w cefnogi i drawsnewid i ynni adnewyddadwy.

Cyflwynwyd meysydd posibl ar gyfer cydweithredu mwy helaeth rhwng y DU a'r UE ar gyfer systemau masnachu allyriadau (ETS), mecanweithiau addasu ffiniau carbon (CBAMs) a lleihau'r bwlch sgiliau o ran y trawsnewid ynni.

Delyth Jewell AS yn cymryd rhan yn y grŵp trafod ar gydweithredu o ran yr hinsawdd ac ynni.

2.         Materion allweddol i Gymru a'r Senedd

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn gosod y telerau ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE wedi i’r Cytundeb Ymadael dynnu’r DU o’r UE. Mae'r mwyafrif o'i ddarpariaethau naill ai'n dod o fewn cymhwysedd datganoledig neu'n effeithio ar feysydd o fewn cymhwysedd datganoledig, o bysgodfeydd i gydweithredu ar ofal iechyd.

Mae rhagor o wybodaeth am beth yw’r rhain, sut y mae'r rhain yn effeithio ar Gymru a rôl y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar gael yng nghanllawiau Ymchwil y Senedd ar y Cytundeb.

Y sefyllfa sydd ohoni

Grŵp o bobl yn sefyll ar gyfer llun  Gall cynnwys a gynhyrchwyd gan AI fod yn anghywir.Rhoddodd Maroš Šefčovič, Comisiynydd Masnach a Diogelwch Economaidd o'r Comisiwn Ewropeaidd, a Nick Thomas-Symonds, Gweinidog Cysylltiadau â'r UE, Llywodraeth y DU, y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol gan y Cyngor Partneriaeth. Manteisiodd y naill a’r llall ar y cyfle i nodi eu blaenoriaethau ar gyfer cysylltiadau’r DU a’r UE:

Hannah Blythyn AS a Delyth Jewell AS gyda'r cyd-gadeiryddion Marsha de Cordova AS a Sandro Gozi ASERhoddodd Comisiynydd Šefčovič, amlinelliad ar nifer o faterion allweddol ar gyfer yr UE, gan gynnwys hawliau dinasyddion, a dri maes blaenoriaeth bras ar gyfer “gwella cydweithrediad strategol â’r DU”. Y rhain oedd diogelwch a gwydnwch, “cysylltiadau pobl â phobl”, gan gynnwys symudedd pobl ifanc ac “amddiffyn y blaned a’i hadnoddau”.  

Tynnodd Nick Thomas-Symonds AS, Gweinidog Cysylltiadau â'r UE, Llywodraeth y DU, sylw at dair blaenoriaeth Llywodraeth y DU, sef diogelwch, diogeledd a ffyniant. Dywedodd fod Llywodraeth y DU yn barod i drafod partneriaeth diogelwch ac amddiffyn, a hefyd, gytundeb ar Gynllun Taliad Sengl. Ailadroddodd linellau amlwg Llywodraeth y DU i beidio â dychwelyd at Farchnad Sengl yr UE, at yr undeb tollau nac at ryddid i symud.

Meysydd cydweithredu penodol

Dros ddau ddiwrnod, bu’r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn trafod meysydd cydweithredu penodol rhwng y DU a’r UE sydd o bwys i Gymru a’r Senedd:

§    Pwysleisiodd y cynrychiolwyr y rôl bwysig sydd gan y DU a'r UE o ran polisi tramor, diogelwch ac amddiffyn, gan gynnwys drwy NATO, ac wrth hyrwyddo heddwch a sefydlogrwydd. Fe wnaethant ailddatgan eu cefnogaeth i Wcráin yn wyneb ymosodiadau gan Rwsia, ac i heddwch parhaol.

§    O ran masnach, tollau, glanweithdra a materion ffytoiechydol (SPS), croesawodd y cynrychiolwyr ddarpariaethau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar gydweithredu, trin yn yr un modd, caffael, dim tollau dim cwotâu, cydweithredu rheoleiddiol ar gymorthdaliadau ac ar ddatblygu cynaliadwy. Cytunodd y cynrychiolwyr fod pawb yn cydweithio'n agos, gan gynnwys bod cyfarfodydd pwyllgor ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn fforymau defnyddiol i ddatrys problemau, i wirio bod dealltwriaeth gyffredin ac i ragweld problemau sy'n codi. Amlinellwyd llwyddiannau ochr yn ochr â nodi eu cydnabyddiaeth bod meysydd i’w gwella. Nododd cynrychiolwyr y DU fod y meysydd i'w gwella yn cynnwys cytundeb ar y Cynllun Taliad Sengl (SPS), cydnabyddiaeth gydfuddiannol o gymwysterau proffesiynol ac ar gyfer artistiaid teithiol, ac roedd galwadau ar i'r DU ailystyried ei llinellau amlwg. Codwyd pwysigrwydd allforion o Gymru, gan gynnwys allforion cig oen, gan Catherine Fookes, yr AS dros Sir Fynwy.

§    Mynegodd y cynrychiolwyr gefnogaeth eang i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc a chafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Ewropeaidd, Economaidd a Chymdeithasol (EESC) ar ei waith. Cafwyd galwadau gan y ddwy ddirprwyaeth ar ran y DU i ailymuno â chynllun Erasmus, i sicrhau partneriaeth symudedd gref a chydfuddiannol ar gyfer pobl ifanc, ac am eithriad diwylliannol a hepgor fisa i’r ddwy ochr ar gyfer y diwydiannau creadigol. Roedd cynrychiolwyr o'r ddwy ochr yn gresynu am yr anghytuno sydd o ran symudedd a rhyddid i symud. Nododd y cynrychiolwyr fod angen i drefniadau fod â chwmpas ehangach na chynlluniau prifysgol yn unig, ac y dylent gynnwys pobl o gefndiroedd incwm isel a difreintiedig. Yn hyn o beth, nododd y Pwyllgor Ewropeaidd, Economaidd a Chymdeithasol (EESC) fod gwersi pwysig i'w dysgu ar gynhwysiant o ran ‘Taith’, sef rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru.

3.         Argymhellion

Mae gan y deddfwrfeydd datganoledig lawer i'w gyfrannu at y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ac mae ein cyfraniadau cadarnhaol at y grwpiau trafod wedi bod yn gyfle gwerthfawr i godi materion ac i rannu arfer da o Gymru.

Er mwyn datblygu’r berthynas rhwng y Senedd a’r Cynulliad Partneriaeth Seneddol ymhellach, rydym yn argymell:

Argymhelliad 1: Dylai Cadeirydd ac Is-gadeirydd dirprwyaeth y DU edrych ar y posibilrwydd o gynnal cyfarfod o'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol yn un o’r gwledydd datganoledig. 

Argymhelliad 2: Rydym yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at grwpiau trafod ac i annerch y Cyfarfod Llawn ar gyfer un eitem o’n dewis ar yr agenda. Rydym yn parhau i bwyso, fodd bynnag, am i gynrychiolwyr y gwledydd datganoledig gymryd rhan lawn pan fydd materion datganoledig yn cael eu trafod. 

Argymhelliad 3: Rydym yn ailadrodd Argymhelliad 3 o adroddiad blaenorol, sef bod cynrychiolwyr y Senedd a phwyllgorau perthnasol y Senedd yn cydweithio i ddatblygu perthnasoedd anffurfiol ag aelodau dirprwyaeth y DU ac o'r Undeb Ewropeaidd y tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Cynulliad Partneriaeth Seneddol, ar feysydd o ddiddordeb cyffredin.

Argymhelliad 4: Fel gydag adroddiadau blaenorol, bydd yr adroddiad hwn yn cael ei anfon at bwyllgorau perthnasol y Senedd ac at Lywodraeth Cymru.

Cynrychiolwyr yng nghyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol rhwng y DU a’r UE